Syniadau stori
Athrawon ac addysgwyr! Rydym yma i helpu. Fe welwch isod ychydig o ysbrydoliaeth i’ch myfyrwyr. Mae gennym daflen waith i’w llwytho i lawr sy’n cynnwys awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu stori a lle i fyfyrwyr nodi syniadau, yn ogystal â mannau cychwyn posibl i’w straeon.
Syniadau stori
Ysgrifennwch stori am long sy’n cludo llwyth, a hithau’n cynnwys darnau aur, sy’n hwylio i mewn i storm ac yn mynd i drafferthion. Beth sy’n digwydd nesaf?
Bedd fydd yn digwydd yn eich stori?
Ydy’r llong yn suddo neu’n cael ei hachub?
A fydd y llongddrylliad yn cael ei ailddarganfod gan archaeolegwyr flynyddoedd yn ddiweddarach?