Close

Testun ein cystadleuaeth ysgrifennu stori eleni ydy darnau arian a’r môr. Rydyn ni’n ystyried pa rôl mae darnau arian wedi’i chwarae yn hanes morio Prydain. Sut maen nhw wedi cael eu defnyddio gan forwyr a’u cyfnewid gan fasnachwyr, sut maen nhw wedi bod yn arwydd o lwc dda neu gyfoeth wedi’i gipio gan elyn, a sut mae eu rôl ar y môr wedi ysbrydoli’r dychymyg o fôr-ladron i drysor ar wely’r môr.

Rydyn ni eisiau i chi ysgrifennu stori â dim mwy na 500 gair am long yn cludo llwyth sydd yn cynnwys darnau aur. Mae’r llong yn hwylio i mewn i storm ac yn mynd i drafferth, beth sy’n digwydd nesaf?

Edrychwch ar ein tudalennau ysbrydoliaeth a lawrlwythwch ein canllaw ysgrifennu stori i’ch helpu chi.

Er mwyn datgan eich diddordeb, anfonwch eich manylion neu fanylion yr ysgol at storycompetition@royalmintmuseum.org.uk a chadwch lygad allan am wybodaeth bellach.

Read this content in English

back to top