Close

Ym mis Chwefror 1971, mabwysiadodd Prydain arian degol. Roedd hyn yn ddigwyddiad o bwys i’r wlad i gyd, gyda phob dyn, menyw a phlentyn yn gorfod newid y ffordd roedden nhw’n defnyddio arian. Gall trin a thrafod a sgwrsio am y darnau arian cyn y degoli fod yn brofiad cadarnhaol a hiraethus i’r bobl a fu’n byw trwy’r newid felly, fel rhan o’r dathliadau hanner canmlwyddiant, mae’r Royal Mint Museum wedi datblygu sesiynau dwyn i gof.

Bydd y sesiwn dwyn i gof ar ffurf ‘Amgueddfa mewn Blwch’’, sy’n cynnwys replicâu a gwrthrychau gwreiddiol o’r cyfnod i bobl eu trin a thrafod. Mae microsglodyn arbennig ar bob gwrthrych a fydd yn chwarae clipiau sain penodol i’r gwrthrych hwnnw o’u gosod ar y blwch. Gall y gweithgaredd hwn fod yn hwyl ac yn symbylol, gan roi cyfle i’r bobl a fu’n byw trwy’r newid sgwrsio am eu hatgofion.

Amgueddfa mewn Blwch

 

I ddechrau, byddwn yn gweithio gyda chartrefi gofal i redeg y sesiynau hyn a bydd y rhai a chanddynt ddiddordeb yn cael cyfle i fenthyca’r blychau’n rhad ac am ddim, gyda’r blychau’n cael eu rhoi mewn cwarantîn a’u diheintio’n drwyadl rhwng pob benthyciad. Bydd adnoddau pellach fel ffilmiau fideo a ffotograffau o’r cyfnod ar ein gwefan, yn ogystal â gwybodaeth gefndirol a syniadau i drafod er mwyn cefnogi staff petaen nhw’n dymuno hwyluso’r sesiwn a helpu i ysgogi sgwrs.

Gobeithiwn ddechrau benthyca’r blychau o fis Ionawr 2021 ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt.

Adnoddau sesiwn

Adnoddau sesiwn

Adnoddau ac ysbrydoliaeth i gartrefi gofal sy’n cymryd rhan

Read more

How to use Museum in a Box

How to use Museum in a Box

Instructions on setting up and using the boxes.

Read more

FAQs

FAQs

How to take part in our reminiscence project.

Read more

back to top