Close

Bu Prydain yn defnyddio system arian yn seiliedig ar ddeuddeg ceiniog i’r swllt ac ugain swllt i’r bunt am ganrifoedd. Tan 1960, roedd y gwerthoedd oedd yn cylchredeg yn cynnwys hanner coron, swllt, chwecheiniog, tair ceiniog, ceiniog, hanner ceiniog a ffyrling. Beth allech chi brynu gyda’r darnau arian hyn? A gawsoch unrhyw rai o’r darnau arian hyn fel arian poced?

Set of predecimal coins

Yn 1966, cyhoeddodd James Callaghan y byddai Prydain yn troi’n ddegol, gyda’r diwrnod wedi’i osod ar gyfer 15 Chwefror 1971. Crëwyd chwe darn arian newydd ar gyfer y degoli: pum deg ceiniog, deg ceiniog, pum ceiniog, dwy geiniog, un geiniog a’r hanner ceiniog. Penderfynwyd yn y diwedd i gynnal cystadleuaeth gyhoeddus i benderfynu ar y dyluniadau, a’r arlunydd buddugol ar gyfer yr ochrau ôl oedd Christopher Ironside FSIA FRBS OBE. Oes gennych chi hoff ddyluniad?

 

 

Er mwyn paratoi ar gyfer y degoli, crëwyd Bathdy newydd yn Llantrisant. Cafodd y dasg o gynhyrchu’r pentwr stoc efydd o ddarnau un a dwy geiniog. Oeddech chi yn seremoni agoriadol y Bathdy newydd? Efallai y gwelsoch ddarnau o ffilm ar y newyddion, neu efallai roeddech yn adnabod rhywun oedd yn gweithio yno neu ar hen safle’r Gwynfryn yn Llundain?

 

 

Wrth arwain at y degoli, lansiwyd ymgyrch gyhoeddusrwydd i ledu ymwybyddiaeth o’r newid. Roedd posteri, taflenni a llyfrynnau gwybodaeth ar gael i aelodau’r cyhoedd ddysgu am y system newydd. A dderbynioch chi unrhyw lyfrynnau, neu a welsoch chi unrhyw un o’r posteri hyn o gwmpas y lle?

decimalisation poster and booklet

Roedd digwyddiad Diwrnod y Degoli ar 15 Chwefror 1971, yn syndod o lyfn a thawel ac, erbyn y bore wedyn, nid oedd bellach ar benawdau’r newyddion. Yr unig fân feirniadaeth a ddaeth ar y diwrnod oedd gan achwynwyr ynghylch maint bach yr hanner ceiniog newydd ac ofnau bod rhai masnachwyr yn achub mantais ar y newid i godi prisiau, ond er gwaethaf hyn, roedd modd galw’r Deyrnas Unedig yn wlad ddegol ychydig fwy nag wythnos ar ôl y diwrnod mawr. Lle’r oeddech chi ar ddiwrnod y degoli?

Posteri gwybodaeth gyhoeddus

Posteri gwybodaeth gyhoeddus

Helpodd posteri llachar ac atyniadol pobl i ddeall yr arian newydd.

Read more

Teledu a ffilm

Teledu a ffilm

Defnyddiodd y llywodraeth y teledu i helpu pobl i baratoi am y newid.

Read more

Hen arian

Hen arian

Darganfyddwch sut roedd hen ddarnau arian cyn degoli’n gweithio.

Read more

back to top