Close

Greg Jenner competition judge

Image of Your Dead to Me podcast logo

Greg Jenner

Read this content in English

Dychwelyd i hafan y gystadleuaeth

Mae Greg Jenner yn hanesydd cyhoeddus, darlledwr ac awdur o Brydain, sydd â diddordeb penodol mewn cyfathrebu Hanes drwy ddiwylliant pop a hiwmor. Mae’n un o Gymrodorion y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol ac yn Gydymaith Ymchwil Anrhydeddus yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain.

Greg yw crëwr, cyflwynydd, ac uwch gynhyrchydd podlediad hanes doniol BBC Sounds, You’re Dead to Me, sy’n paru digrifwyr mawr eu bri gyda haneswyr arbenigol i fynd i’r afael â hanes byd-eang.

Yn ddiweddar, mae Greg wedi canolbwyntio ar brosiectau clywedol, ac mae ei brosiectau BBC Radio 4 eraill wedi cynnwys y gyfres addysgol o fri i blant, Homeschool History (wedi’i chreu yn ystod cyfnod clo Covid).

Ymddangosodd yn ddiweddar fel yr ymgynghorydd arbenigol ar gyfres addysgol gomedi wedi'i hanimeiddio YouTube Kids, Corpse Talk, a oedd wedi’i henwebu ar gyfer gwobr RTS. Yn fwyaf nodedig, roedd yn rhan allweddol o sioe sgetshis gomedi hynod lwyddiannud CCBC, Horrible Histories, rhwng 2008-2019, sydd wedi ennill dros 50 o wobrau rhyngwladol, yn ogystal â'r ffilm ddilynol, a oedd wedi'i henwebu ar gyfer BAFTA, Horrible Histories: Rotten Romans.

Greg yw awdur (ac adroddwr llyfr llafar) pedwar llyfr argraffedig: A Million Years In A Day, Dead Famous, Ask A Historian, a’i lyfr cyntaf i blant, You are History. Mae bellach yn ysgrifennu cyfres o lyfrau i blant o’r enw Totally Chaotic History!

Ei wefan yw www.gregjenner.com

Gallwch ddod o hyd i Greg ar y rhan fwyaf o safleoedd cyfryngau cymdeithasol dan yr enw @Greg_Jenner

Asiant Cyswllt: info@knightayton.co.uk

 

back to top