Cystadleuaeth Stori Fer
Fel rhan o’n dathliad pen-blwydd, mae Amgueddfa’r Royal Mint yn cynnal cystadleuaeth stori fer sy’n agored i bob disgybl blwyddyn pump a chwech mewn ysgolion cynradd yng Nghymru.
Gofynnir i ddisgyblion ysgrifennu stori fer o ddim mwy na 500 gair a ysbrydolwyd gan Ddiwrnod y Degoli ym 1971 a’r newid i arian degol. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion yw 11 Rhagfyr a gellir cyflwyno straeon yn ddigidol neu eu postio i Amgueddfa’r Royal Mint.
Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan y beirniad gwadd a'r awdur plant enwog, Eloise Williams, a bydd y lluniau'n cael eu darlunio gan yr arlunydd gwadd, Rebecca Green. Bydd y gwobrau’n cael eu dyfarnu i’r awdur buddugol a’i ysgol.
Lawrlwytho’r daflen yn y Gymraeg.
Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth isod, gan gynnwys adnoddau dysgu a chwestiynau cyffredin.
Troi’n ddegol
Beth yw degoli arian? Sawl swllt sydd mewn punt? Hyn oll a mwy ar ein Parth Dysgu!