Close

Eloise Williams yw Children’s Laureate Wales 2019 – 2021. Tyfodd i fyny yn Llantrisant ac mae ganddi gysylltiadau cryf â’r ardal.

Enillodd ei nofelau Wobr Llyfr Pobl Ifanc y Flwyddyn 2017 Wales Arts Review, Gwobrau Llyfrau YBB 2018, Gwobrau Llyfrau Gogledd Ddwyrain Lloegr 2019 a chafodd ei rhoi ar restr fer Gwobrau Tir na nOg yn 2018 a 2019.

Eloise Williams books.jpg

Yn ei llythyr agoriadol i blant ar ddechrau ei daliadaeth, dywed Eloise “Rydw i wedi caru straeon erioed. Mae’r boddhad o ymgolli mewn stori dda’n hudol. Mae straeon yn ein cysylltu ni, yn rhoi empathi a dealltwriaeth i ni, yn rhoi ymarfer i’n hymennydd a’n dychymyg, yn gadael i ni deithio’r byd a chael profiad o’r rhyfeddodau mwyaf.”

Wrth siarad am y gystadleuaeth, dywed Eloise, “Rydw i wrth fy modd o gael fy ngofyn i feirniadu’r gystadleuaeth ysbrydoledig hon. Tyfais i fyny’n agos iawn at y Royal Mint ac mae gen i atgofion arbennig iawn o Lantrisant. Fel Children’s Laureate Wales, rwy’n gyffrous iawn i annog ysgrifennu creadigol mewn pobl ifanc ac edrychaf ymlaen at ddarllen y straeon.” “Y cynhwysion allweddol rwy’n chwilio amdanynt yw creadigedd a dychymyg – defnyddiwch ddigonedd o’r rheiny ac ewch chi ddim o’i le. Rwy’n edrych ymlaen at ddarllen y straeon!”

back to top