Benthyca Bocs
Mae’n bleser o’r mwyaf cyhoeddi bod gennym o focsys hel atgofion i’w rhoi ar fenthyg, yn rhad ac am ddim, i gartrefi gofal ledled y Deyrnas Unedig. Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth neu cysylltwch â'n tîm drwy gysylltu â ni yn: borrowabox@royalmintmuseum.org.uk.
Mae prosiect Bocsys Hel Atgofion Amgueddfa’r Bathdy Brenhinol yn gyfle i’r rheiny sy’n byw mewn gofal preswyl ryngweithio â rhan o gasgliad ein hamgueddfa, a rhannu atgofion am eu bywydau. Adnodd gweithgareddau ydy'r bocs, sy'n cynnwys eitemau go iawn a chopïau, disgrifiad llafar ac adrodd hanesion, ynghyd â chanllawiau gweithgareddau ar gyfer gweithwyr gofal. Mae holl dîm yr Amgueddfa’n frwd dros gyfrannu at les cadarnhaol y rheiny sy’n byw ac yn gweithio mewn gofal preswyl ledled y wlad, ac mae ein bocsys ar gael i’w benthyca gan bob cartref gofal yn y DU. Gall staff cartrefi gofal ofyn am gael benthyg bocs a chynnal sesiynau hel atgofion gyda'u preswylwyr.









Mae’r bocsys yn dod yn ffurf ‘Amgueddfa mewn Bocs’. Mae'n cynnwys bocs electronig a chasgliad o eitemau i bobl gael gafael ac edrych arnynt. Mae micro-sglodyn arbennig wedi ei osod ym mhob eitem a phan gaiff ei osod ar y bocs bydd yn chwarae clip sain.
Mae prosiect hel atgofion Amgueddfa’r Bathdy Brenhinol wedi cael y fath dderbyniad cadarnhaol fel ei fod wedi parhau i ehangu bob blwyddyn. Cyn hyn, rydym wedi cynnig Bocs Atgofion Arian Degol a Bocs Atgofion y Jiwbilî.
Rydym ni’n awr yn cynnig casgliad ynglŷn â’r Bathdy Brenhinol a hanes y darnau arian yn eich poced. Mae’r bocs hwn yn cynnwys gwybodaeth ddiddorol am hanes a gwaith y Bathdy, ond y prif bwrpas ydy annog preswylwyr a staff i hel atgofion am amrywiaeth o bynciau o’u bywydau hwy eu hunain, megis gwyliau, diddordebau a gwaith.
Mae yna ddeuddeg eitem, yn cynnwys pwrs o ddarnau arian cyn-ddegol, copi o fedal, Bwrdd Gwthio Dimeiau bach a llyfr brasluniau.


Gellir addasu uchder y sain ar adran sain pob bocs, ac rydym hefyd yn darparu trawsgrifiad ar gyfer y sain yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym hefyd yn falch iawn o gynnig fersiwn sain Gymraeg o'r bocs hel atgofion hwn.
Peidiwch ag anghofio bod gennym o focsys hel atgofion i’w rhoi ar fenthyg, yn rhad ac am ddim, i gartrefi gofal ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r bocsys yn cael eu rhoi mewn cwarantîn a'u diheintio'n drylwyr rhwng pob benthyciad. Isod fe welwch ddolenni cyswllt i adnoddau pellach, yn ogystal â'r holl wybodaeth angenrheidiol i staff cymorth, os byddant yn dymuno cael benthyg bocs am ddim a chynnal sesiwn.
I gael benthyg bocs neu gael gwybod mwy, cysylltwch â’n tîm yn borrowabox@royalmintmuseum.org.uk