Close

Hwylio.jpg

Yr enw a roddir i’r cyfnod o ganol y 16eg ganrif i ganol y 19eg ganrif yw oes y llongau hwylio. Byddai llongau hwylio’n teithio i bob cwr o’r byd. Byddai criwiau a theithwyr yn aml ar y môr am wythnosau, misoedd a hyd yn oed blynyddoedd ar y tro.

Ar fordeithiau hir, nid oedd yr amodau ar fyrddau’r llongau hyn bob amser yn gysurus iawn. Gallai’r llongau fod yn eithriadol o gyfyng, yn llawn clefydau, a dan fygythiad stormydd a moroedd garw. Dychmygwch pe baech yn dioddef salwch môr ac yn methu mynd i’r lan am fisoedd!

Sailing vessels 'Lyra' and 'Petrel'© National Maritime Museum, Greenwich, London.jpg

Llongau hwylio 'Lyra' a 'Petrel’. © Amgueddfa Forwrol Genedlaethol, Greenwich, Llundain

Roedd safon y bwyd ar fyrddau’r llongau’n eithaf gwael, yn enwedig ar fordeithiau hir pryd y byddai angen storio nwyddau am gyfnod maith. Heddiw, rydym yn gallu cadw ein bwyd yn ffres mewn oergell, ond nid oedd y dechnoleg hon ar gael ar y pryd, felly ni fyddai ffrwythau a llysiau ffres yn para’n hir iawn ar ôl cychwyn mordaith.

Byddai’r criw yn bwyta cig a oedd wedi’i halltu i’w gadw, ynghyd â math o fisgeden fara sych galed a oedd wedi’i gwneud i gadw am gryn dipyn o amser. Roeddent mor galed bod rhaid eu mwydo mewn cawl neu stiw er mwyn eu bwyta. O ganlyniad i’w bwyd gwael, byddai llongwyr yn aml yn dioddef y sgyrfi, sef clefyd drwg a achoswyd o ganlyniad i ddiffyg fitamin c.

Ships Biscuit © National Maritime Museum, Greenwich, London.jpg

Ship's Biscuit © Amgueddfa Forwrol Genedlaethol, Greenwich, Llundain

Roedd bywyd yn anodd i longwyr, a byddai’r rheolau llym iawn ar fyrddau llongau yn golygu y byddai unrhyw un a feiddiai eu torri’n cael ei gosbi’n galed. Gallai fod yn fywyd unig hefyd, gyda chriwiau’n cael eu gwahanu o’u teuluoedd, heb unrhyw gysylltiad am amser maith.

Byddai llongwyr a theithwyr yn cario darnau arian gyda nhw ar y teithiau hirfaith hyn. Fel yr oedd masnach yn ehangu ymhellach ledled y byd, wrth deithio, byddai pobl yn dod ar draws gwahanol fathau o arian o bob cwr o’r byd, ac yn eu cyfnewid.

Shipmates carousing on shipboard © National Maritime Museum, Greenwich, London.jpg

Cyd-longwyr yn cyfeddach ar fwrdd y llong © Amgueddfa Forwrol Genedlaethol, Greenwich, Llundain

 

Suggested links

The Earl of Abergavenny

Life at sea in the age of sail

back to top