Ysbrydoliaeth
Beth yw aur?
✨ Mae aur yn fetel.
✨ Mae aur yn elfen. Ei symbol cemegol yw Au a’i rif atomig yw 79 ar y tabl cyfnodol.
✨ Mae aur yn solet ar dymheredd ystafell, ac mae ganddo doddbwynt uchel.
✨ Mae aur yn hydrin iawn. Golyga hyn ei fod yn meddalu ac yn hawdd ei drin pan gaiff ei gynhesu. Gellir ei ailddefnyddio yn ddiderfyn a gellir ei ailgylchu nifer o weithiau.
✨ Mae aur yn sgleinio, ni fydd yn rhydu ac ni fydd ei liw’n pylu.
✨ Mae aur yn brin – dyna pam y mae mor ddrud!

O ble y daw aur?

Fel mwynau eraill, gellir dod o hyd i aur mewn creigiau o gwmpas y blaned. Cafodd ei ffurfio ar ôl i sêr ffrwydrol fwrw elfennau i’r gofod, a chyrraedd y ddaear ar ffurf meteorynnau a laniodd yn ddwfn yn y ddaear, gan droi’n aur yn araf wrth i gramen y ddaear symud. Digwyddodd y prosesau hyn i gyd dros biliynau o flynyddoedd.

Gwaith anodd yw cloddio am aur oherwydd nid oes modd ei weld yn hawdd. Mae cloddio am aur yn gallu bod yn waith anodd a pheryglus, ac yn aml mae’n niweidiol i’r bobl a’r cymunedau sy’n gysylltiedig â’r gwaith. Ond gan ein bod yn gwirioni cymaint ar aur, mae mwyngloddiau aur i’w cael ar bob cyfandir ac eithrio Antartica, er gwaethaf yr anawsterau.

Y mwynglawdd dyfnaf yw Mwynglawdd Aur Mponeng yn Ne Affrica, sydd bron i bedwar cilomedr islaw wyneb y ddaear – yr un hyd â 40 o gaeau pêl-droed!

Sut y caiff aur ei ddefnyddio?
Caiff aur ei ddefnyddio fel...
Arian Cyfred – Ers cyn cof, mae pobl wedi troi aur yn ddarnau arian. Er nad ydym yn defnyddio aur ar gyfer darnau arian mwyach, mae llywodraethau a banciau’n cadw barrau aur mewn daeargelloedd er mwyn profi bod ganddynt ddigon o gyfoeth i gynnal eu papurau a’u darnau arian. Dyma eu ‘cronfa aur’, ac yn y gorffennol defnyddiwyd aur o’r fath i dalu dyledion cenedlaethol. Yn ystod chwe mis cyntaf yr Ail Ryfel Byd, fe wnaeth ysbiwyr a oedd yn rhan o ‘Operation Fish’ fynd ati yn y dirgel i symud 100 tunnell o farrau aur o Brydain i Ganada er mwyn diogelu cronfeydd aur Prydain.

Gemwaith – Defnyddiwyd oddeutu hanner yr holl gyflenwadau presennol o aur i wneud gemwaith ysblennydd a gaiff ei wisgo gan bobl.

Symbol Statws – Gan fod aur yn ddrud, mae pobl yn ei ddefnyddio i ddangos pa mor gyfoethog ydynt, neu i ddangos eu bod wedi cyflawni rhywbeth anhygoel, er enghraifft tlws neu fedal aur.

Celfyddyd – Am filoedd o flynyddoedd, mae aur wedi cael ei ddefnyddio mewn paentiadau, gwaith metel cywrain, adeiladau a llawer mwy oherwydd ei harddwch a’i werth symbolaidd.

Technoleg – Defnyddir aur y tu mewn i ffonau symudol, dyfeisiau tabled, cyfrifiaduron a mwy, gan ei fod yn dda am ddargludo trydan.

Archwilio’r Gofod – Mae aur yn adlewyrchu pelydriad yr haul ac mae’n cadw’r tymheredd yn sefydlog. Caiff ei ddefnyddio i orchuddio helmedi gofodwyr, telesgopau gofod, cerbydau gofod a lloerenni.

Bwyd a Diod – Mae pobl yn bwyta math arbennig o aur – sef dail aur. Mae dail aur yn eithriadol o denau a brau, a chânt eu defnyddio fel addurn.

Siocled; Y Bathdy Brenhinol.
Deintyddiaeth – A ydych erioed wedi gweld rhywun â dant aur? Ers miloedd o flynyddoedd, mae pobl wedi defnyddio aur ar gyfer llenwadau a dannedd gosod!

Sut y mae’r Bathdy Brenhinol yn defnyddio aur?
Mae aur a metelau gwerthfawr wedi bod yn ganolog i waith y Bathdy Brenhinol ers cannoedd o flynyddoedd.

Yn fwy diweddar, datblygodd y Bathdy broses newydd ar gyfer ailgylchu metelau gwerthfawr sy’n deillio o wastraff electronig. Caiff byrddau cylched eu datgymalu a chaiff yr holl ddeunyddiau gwahanol eu gwahanu. Mae’r Bathdy’n cadw’r aur, a dynnir oddi ar y byrddau trwy ddefnyddio proses gemegol ar dymheredd ystafell. Mae’r broses hon yn defnyddio llai o ynni na dulliau ailgylchu mwy traddodiadol sydd, fel arfer, yn golygu cynhesu deunyddiau hyd nes y byddant yn toddi, gan eu gwahanu wedyn.

Mae’r Bathdy Brenhinol yn defnyddio aur i wneud:
Darnau Aur - Caiff y darnau aur gorau yn y byd eu gwneud gan y Bathdy, fel y sofren. Cafodd y sofren aur gyntaf ei chreu ar gyfer y Brenin Harri VII ym 1489. Ar un adeg, câi’r sofren ei derbyn a’i defnyddio mewn nifer o wahanol wledydd ledled y byd gan ei bod mor enwog a dibynadwy. Mae’r Bathdy’n dal i wneud darnau aur y gall pobl eu prynu.

Medalau – Gwnaeth y Bathdy Brenhinol 4,700 o fedalau ar gyfer y Gemau Olympaidd a gynhaliwyd yn Llundain yn 2012. Gwnaeth fedalau efydd, arian ac aur ar gyfer y trydydd safle, yr ail safle a’r safle gyntaf. Nid oedd y medalau aur wedi’u gwneud o aur solet; yn hytrach, roeddynt yn cynnwys cymysgedd o aur ac arian a chawsant eu goreuro ag aur. Roeddynt yn drwm iawn!

Gemwaith – Yn 2022, cafodd casgliad o emwaith, o’r enw 886, ei greu gan y Bathdy Brenhinol. Mae’r Bathdy’n defnyddio’r un sgiliau ag a ddefnyddir i wneud darnau arian er mwyn creu gemwaith aur ac arian.

Eurfarrau – Mae buddsoddwyr yn prynu barrau arian, platinwm ac aur, a elwir yn ‘eurfarrau’. Mae’r Bathdy’n cynhyrchu eurfarrau o wahanol gynlluniau a gwahanol bwysau – o rai bach iawn i rai mawr iawn! Mae pris aur yn newid yn ddyddiol. Gallwch weld siart fyw sy’n nodi prisiau aur yma: https://www.royalmint.com/gold-price/

Fe wnaethom holi Dan Thomas, beirniad ein Cystadleuaeth Stori Fer, ynglŷn â’i rôl yn y Bathdy a’r modd y mae’n gweithio gydag aur. Dyma a ddywedodd...
A oes yna aur yng nghasgliad Amgueddfa’r Bathdy Brenhinol?
Mae yna bob mathau o wrthrychau a darnau aur yng nghasgliad yr Amgueddfa.

Gallwch weld rhai ohonynt yma: https://royalmintmuseum.collectionsindex.com/results.

Yn ein casgliad, ceir darnau aur a oedd yn perthyn i gelc aur. A ydych yn gwybod beth yw celc aur?
Ystyr ‘celc’ yw casgliad o drysorau aur neu drysorau o fath arall a gladdwyd neu a guddiwyd, yn ôl pob tebyg yn ystod cyfnodau llawn perygl neu yn ystod rhyfel. Yn aml, mannau cuddio dros dro yn unig oedd y mannau hyn, ac yn y pen draw byddai rhywun yn dychwelyd i nôl y celc. Ond pe bai perchnogion y celc yn marw neu’n methu dychwelyd i’w nôl, byddai’r trysorau’r aros yno, ynghudd yn y ddaear. Weithiau, mae pobl yn dod o hyd i gelciau aur trwy ddamwain, neu gyda datgelyddion metel, mewn caeau, gerddi a mannau eraill.
Llwyddodd yr Amgueddfa i gael gafael ar bedwar darn aur o’r Oes Haearn, a elwir yn ‘staterau’, a oedd yn perthyn i gelc Chute (1927) – darganfuwyd y celc gan fachgen ifanc yn Wiltshire, ac roedd yn cynnwys 65 o ddarnau aur! Dychmygwch sut brofiad oedd dod o hyd i’r fath beth!

Pwy, yn eich tyb chi, a gladdodd y darnau aur hyn? Tybed beth yw eu stori?
Straeon sy’n sôn am aur
Mae aur wedi tanio dychymyg pobl drwy hanes ac mae wedi ysbrydoli llu o straeon, chwedlau a hanesion llên gwerin.

Mae yna straeon rhyfeddol sy’n sôn am aur: Nyddu gwellt a’i droi’n aur yn stori tylwyth teg Rumpelstiltskin; stori llên gwerin o’r Dwyrain Canol sy’n adrodd hanes gŵr ifanc tlawd o’r enw Aladdin sy’n rhwbio lamp hud i alw genie; a stori llên gwerin o Iwerddon lle mae tylwyth teg direidus ar ffurf dynion bach, a elwir yn goblynnod (leprechauns), yn cuddio potiau aur wrth draed enfysau.

Roedd y Groegiaid gynt yn credu mai seirff enfawr oedd dreigiau, a’u bod yn amddiffyn trysorau aur. Bu’r chwedl hon yn boblogaidd trwy hanes. Yn y gerdd Hen Saesneg Beowulf, cafodd cwpan aur ei dwyn o ffau draig a oedd yn gwirioni ar drysor. A hithau’n gandryll, aeth y ddraig ati i losgi pentrefi, ac ymladdodd Beowulf â hi er mwyn amddiffyn ei bobl. Ysbrydolwyd J. R. R. Tolkien gan y gerdd hon pan ysgrifennodd ei lyfr plant, The Hobbit. Yn y llyfr hwn, treuliodd draig o’r enw Smaug bron i ddau gan mlynedd yn gorwedd ar gelc aur a oedd wedi’i ddwyn, hyd nes y daeth Bilbo Baggins a gorchfygu’r ddraig; yna, cafodd y trysor ei rannu.

Mae dod o hyd i drysor yn gallu trawsnewid bywydau. Mae straeon am drysorau cudd a chladdedig – rhai gwirioneddol a ffuglennol – wedi tanio dychymyg pobl ers canrifoedd. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ceisiodd anturiaethwyr o Ewrop ddod o hyd i aur yng Ngogledd a De America. Yn sgil eu hymchwil farus am drysor, ehangodd y tiroedd hyn yn gyflym. Aethant ati i chwilio am ‘ddinasoedd aur’ chwedlonol fel El Dorado, sy’n golygu ‘yr un euraid’ mewn Sbaeneg. Mae chwilio am drysor wedi ysbrydoli straeon fel The Famous Five gan Enid Blyton.

Mae pobl wrth eu bodd yn darllen am anturiaethau môr-ladron yn chwilio am aur. Mae Treasure Island gan Robert Louis Stevenson yn sôn am fachgen ifanc o’r enw Jim Hawkins a ddaw o hyd i fap yn dangos trysor claddedig, gan beri iddo fynd ar siwrnai beryglus ar long môr-ladron.

Yn aml, defnyddir aur fel arwydd o drachwant. Yn y Mabinogion, sef casgliad o chwedlau Cymraeg, mae powlen hud yn caethiwo’r cymeriadau sy’n cyffwrdd ynddi.

Mae chwedl Roegaidd y Brenin Midas yn dangos bod yn rhaid ichi fod yn ofalus iawn wrth ddymuno pethau. Roedd Midas yn dymuno i bopeth y byddai’n cyffwrdd ynddo droi’n aur. Gwireddwyd ei ddymuniad, ond sylweddolodd yn fuan fod ei ddymuniad wedi troi’n felltith gan fod ei fwyd, ei ddiod a’i ferch wedi troi’n aur.

Mewn mytholeg Norwyaidd, penderfynodd Loki, y duw direidus, ddwyn modrwy aur oddi ar Andvari a oedd yn byw o dan raeadr. Roedd y fodrwy yn gallu helpu ei pherchennog i ddod o hyd i ragor o aur. Fel ffordd o ddial ar Loki, rhoddodd Andvari felltith ar y fodrwy er mwyn gwneud yn siŵr y byddai’n dod ag anlwc i bwy bynnag a oedd yn berchen arni.

Dros amser, mae straeon gwirioneddol am ysbiwyr wedi ysbrydoli awduron, fel Ian Fleming a ysgrifennodd James Bond. Roedd gan James Bond le cudd yn ei fag dogfennau ar gyfer darnau arian, ac fe seiliwyd hyn ar gudd-weithredwyr go iawn a gâi ddarnau aur, fel sofrenni, i’w defnyddio mewn argyfwng tra’r oeddynt ar berwyl.

Sut fath o stori y gallwch chi ei hysgrifennu am aur?
Os dymunwch, gallwch lawrlwytho ein Taflen Waith Ysgrifennu Stori er mwyn eich helpu i gynllunio ac ysgrifennu eich stori.

