Close

Laura K Sayers

Mae Laura yn ddarlunydd ac yn artist papur. Mae’n gweithio yn ei stiwdio yng nghanol Glasgow, gan greu casgliadau unigryw o weithiau celf miniatur a phrosiectau meddylgar ar gyfer llyfrau plant. Mae ei gwaith, a gaiff ei greu’n gywrain trwy gyfuno papur wedi’i dorri a chyfryngau cymysg, yn archwilio themâu cyffredinol fel newid y tymhorau a chanfod llawenydd mewn bywyd beunyddiol. Mae hi wrth ei bodd yn dod o hyd i gynlluniau lliw sy’n serennu, a chanolbwyntio ar fanylion y bydoedd sy’n rhan annatod o’i straeon a’i gweithiau celf.

Medd Laura: “Fe fuaswn wedi gwirioni ar y gystadleuaeth hon pan oeddwn yn ifanc, felly rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld gweithiau creadigol y cystadleuwyr. Pleser pur fydd dod â geiriau’r enillydd yn fyw!”

Gallwch ddod o hyd i ragor o’i gwaith yn lauraksayers.com neu @lauraksayers ar Instagram.

Laura K Sayers

back to top