Close

 

MAE'R GYSTADLEUAETH AR GAU

2024-2025

Llongyfarchiadau i Myra Saindane, 8 mlwydd oed, o Ysgol St Aubyn, Essex am ennill y wobr 1af am ei stori, ‘Myra’s Green Awakening’. Llwyddodd ei stori ynghylch y ffordd y gwnaeth taith i India ysbrydoli cenhadaeth gynaliadwyedd i gydio yn nychymyg ein beirniad, Michaela Strachan. Mae Myra wedi ennill set o ddarnau arian iddi hi ei hun a gwerth £5,000 o offer a llyfrau ar gyfer llyfrgell ei hysgol. I ddarllen y stori fuddugol, yn ogystal â straeon enillwyr yr 2il a 3edd wobr, y rhai a ddaeth yn agos i’r brig a cheisiadau eraill a gafodd ganmoliaeth uchel, cliciwch y botwm isod.

Read stories

2023-2024

Mae gennym enillydd! Llongyfarchiadau i Ione Knight, 11 mlwydd oed, o Ysgol Gynradd Rose Avenue, Llundain ar ei stori ‘The Girl with Hair like Fire’. Llwyddodd stori Ione ynghylch tynged merch ifanc a’i thad, sy’n Gapten Môr enwog, i gipio dychymyg ein beirniad Greg Jenner. Enillodd set o ddarnau arian iddi hi ei hun a gwerth £5,000 o offer a llyfrau ar gyfer llyfrgell ei hysgol.

Darllenwch y straeon

2022-2023

Mae gennym enillydd! Llongyfarchiadau Muduo Wang, disgybl 10 oed o Cothill House Prep School yn Swydd Rhydychen, am ei stori ‘M’. Bu i stori Muduo am hen ddarn o arian Tsieineaidd ddal sylw ein barnwr Onjali Q. Raúf. I ddarllen y stori fuddugol, yn ogystal â’r straeon eraill, cliciwch y botwm isod.

Darllenwch y straeon

2021-2022

Mae gennym enillydd! Llongyfarchiadau Joshua Boholst, disgybl 10 oed o St Cecilia’s Catholic Primary School yn Surrey, am ei stori ‘Spyder’. Mae gan lawer o bobl ofn pryfaid cop, ond bu i'r prif gymeriad yn stori Joshua ddal dychymyg ein beirniaid. I ddarllen y stori fuddugol, yn ogystal â’r straeon eraill, cliciwch y botwm isod.

Darllenwch y straeon

2020-2021

Mae gennym enillydd! Llongyfarchiadau Rhys Davies, disgybl 10 oed o Ysgol y Bannau. Mae stori Rhys am swllt y Brenin George V yn ein tywys drwy hanes cylchrediad y darn hwn o arian. I ddarllen y stori fuddugol, yn ogystal â’r straeon eraill, cliciwch y botwm isod.

Darllenwch y straeon

back to top