Enillwyr 2022
Cystadleuaeth Stori Fer Jiwbilî Platinwm
Yn rhan o ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines, cynhaliodd Amgueddfa'r Bathdy Brenhinol gystadleuaeth stori fer a oedd ar agor i bob disgybl ysgol gynradd blwyddyn pump a chwech yn y Deyrnas Unedig. Gofynnwyd i’r disgyblion ysgrifennu stori fer heb fod yn fwy na 500 o eiriau wedi'i hysbrydoli gan deyrnasiad maith y Frenhines a dathliadau'r jiwbilî.
Llongyfarchiadau Joshua Boholst, disgybl 10 oed am ei stori ‘Spyder’. Mae gan lawer o bobl ofn pryfaid cop, ond bu i'r prif gymeriad yn stori Joshua ddal dychymyg ein beirniaid.
Dewiswyd yr enillydd, y rhai nesaf at y gorau a’r straeon uchel eu canmoliaeth gan banel o feirniaid gwadd, Alex T. Smith, Connor Allen, Joseph Coelho, Caroline Clough and Sarah Edmonds a darluniwyd y cais buddugol gan yr artist gwadd Sarah.
Cewch weld eu holl straeon gwych isod.

