Close

 

MAE'R GYSTADLEUAETH AR GAU

Croeso i dudalennau straeon byrion blynyddol Amgueddfa’r Bathdy Brenhinol.

Am y pumed flwyddyn yn olynol, rydym yn cynnal ein Cystadleuaeth Straeon Byrion flynyddol. Mae’r gystadleuaeth ar agor i ddisgyblion Ysgolion Cynradd 8-11 oed. Caiff y myfyrwyr eu gwahodd i gyflwyno stori hyd at 500 gair yn ymwneud â phwnc arbennig.

Y pwnc ar gyfer eleni yw Dyfodol Cynaliadwy. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Bathdy Brenhinol wedi ceisio gweithio mewn ffordd fwy cynaliadwy, er enghraifft defnyddio mwy o ynni adnewyddadwy a newid y pethau a wnawn trwy adeiladu adran newydd ar gyfer ailgylchu metelau gwerthfawr ar ein safle yn Ne Cymru. Gan ein bod ni yn y Bathdy Brenhinol yn edrych tua’r dyfodol, rydym eisiau i chithau wneud yr un peth yn eich stori.

Darllenwch ein tudalennau ysbrydoliaeth i ddysgu sut y mae’r Bathdy Brenhinol yn symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy – gobeithio y cewch ysbrydoliaeth a syniadau ar gyfer eich stori.

Bydd y gystadleuaeth ar agor rhwng 17 Chwefror a 25 Ebrill. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan ym mis Mai.

Sylwer: gan ein bod yn disgwyl nifer fawr o ymgeisiau, dim ond â’r enillwyr y byddwn yn cysylltu.

Read this content in English

back to top