Cwestiynau Cyffredin
Yn chwilio am help? Ceir rhestr o'n cwestiynau cyffredin isod. Os oes gennych gwestiwn arall yr hoffech i ni ei ateb, e-bostiwch storycompetition@royalmintmuseum.org.uk neu trowch at ein Telerau ac Amodau am wybodaeth fanylach.
Sut mae cystadlu?
Yn syml, cyflwynwch eich stori ar-lein trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
A gaf anfon copi papur o’m stori trwy’r post?
Cewch. Rydym yn derbyn copïau papur. Gallwch bostio eich stori i’r cyfeiriad canlynol:
Short Story Competition
Amgueddfa'r Bathdy Brenhinol
Llantrisant
Pontyclun
CF72 8YT.
Os byddwch yn anfon eich stori trwy’r post, rhaid ichi lofnodi ein Telerau ac Amodau ac anfon copi ohonynt gyda’ch stori. Gellir gwneud hyn ar gyfer pob plentyn unigol neu ar ran dosbarth cyfan. Ar frig pob stori, cofiwch nodi enw, oed ac ysgol yr awdur. Bydd manylion y buddugwyr yn cael eu rhannu’n gyhoeddus gyda’r wasg ac ar ein gwefan.p>
Oes rhaid imi dalu i gystadlu?
Nac oes, mae cystadlu’n rhad ac am ddim.
Pwy sy'n gallu cystadlu?
Unrhyw un sy’n 7-11 oed ar yr adeg y cyflwynir y stori. Rhaid i’r cystadleuwyr fyw yn y DU a rhaid iddynt fynd i’r ysgol neu gael eu haddysgu gartref yn y DU.
Ydw i'n gallu cystadlu’n annibynnol, neu oes rhaid i mi gystadlu drwy fy ysgol?
Os ydych rhwng saith ac un ar ddeg oed ac yn mynd i'r ysgol yn y Deyrnas Unedig, gallwch gystadlu’n unigol, neu drwy eich ysgol!
A gaf fi gyflwyno mwy nag un stori?
Na chewch, dim ond un stori yr un y gallwch ei chyflwyno.
Beth yw’r wobr?
Y wobr 1af – hanner sofren brawf 2026 aur, talebau sy’n werth £5,000 ar gyfer cyfarpar a llyfrau i ysgol neu lyfrgell leol yr enillydd, a chopi wedi’i fframio o’r stori fuddugol, a ddarluniwyd gan artist proffesiynol.
Yr 2il wobr – sofren 2026 arian, talebau sy’n werth £2,000 ar gyfer cyfarpar a llyfrau i ysgol neu lyfrgell leol enillydd yr ail wobr.
Y 3edd wobr – sofren 2026 arian, talebau sy’n werth £1,000 ar gyfer cyfarpar a llyfrau i ysgol neu lyfrgell leol enillydd y drydedd wobr.
5 o wobrau i fyfyrwyr a ddaeth yn agos at y brig – darn arian lliw o’r radd flaenaf nad yw mewn cylchrediad.
10 o wobrau i fyfyrwyr a gafodd ganmoliaeth uchel – darn arian o’r radd flaenaf nad yw mewn cylchrediad.
A fydd fy manylion yn cael eu storio neu eu defnyddio?
Byddwn yn defnyddio eich manylion i gysylltu â chi dim ond os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer ac ni fydd data'n cael ei gasglu at unrhyw ddiben heblaw mewn perthynas â'r gystadleuaeth. Bydd manylion y cystadleuwyr buddugol, fel enw, oedran, ysgol a llun, yn cael eu rhannu'n gyhoeddus gyda'r wasg ac ar ein gwefan ynghyd â'r straeon buddugol. Trowch at ein telerau ac amodau am fwy o wybodaeth.
Ble y gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y thema?
Mae gennym adran ‘ysbrydoliaeth’ ar ein gwefan, yn ogystal â thaflen waith y gallwch ei lawrlwytho i’ch helpu i ysgrifennu. Ond adnoddau dewisol yw’r rhain a gallwch ddefnyddio syniadau o unrhyw ffynhonnell.
Oes rhaid i mi ddefnyddio un o'r pynciau a awgrymir?
Nac oes, syniadau yn unig ydyn nhw. Gallwch ysgrifennu eich stori am unrhyw beth o gwbl sy'n gysylltiedig â chysyniad 'Aur'.
A allaf gyflwyno fy nghais mewn iaith heblaw’r Saesneg?
Wrth gwrs, ond byddwn yn trefnu cyfieithu eich stori i'r Saesneg er mwyn ei beirniadu.
Pryd fydd y gystadleuaeth yn dod i ben?
Bydd y gystadleuaeth ar agor rhwng 16 Chwefror ac 17 Ebrill 2026.
Sut fydd yr enillydd yn cael ei ddewis?
Bydd rhestr fer o 18 o geisiadau yn cael ei dewis gan dîm Royal Mint Museum. Bydd y ceisiadau yn cael eu darllen a’u gwerthuso gan ein beirniad gwadd, a fydd yn dewis y prif enillwyr a’r rhai sy’n agos at y brig.
Sut fydda i'n cael gwybod os byddaf yn ennill?
Os ydych ar y rhestr fer i gael gwobr, byddwn yn cysylltu â chi drwy eich ysgol heblaw ichi nodi yr hoffech inni gysylltu â chi mewn ffordd wahanol.
Mae’r gystadleuaeth wedi dod i ben
Mae ein cystadleuaeth Stori Fer Aur wedi dod i ben. Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan ym mis Mai. Sylwch: gan ein bod yn disgwyl nifer fawr o gystadleuwyr, dim ond os byddwch yn ennill gwobr y byddwn yn cysylltu â chi. Isod, gallwch ddarllen straeon buddugol y gorffennol..

