Ein barnwr
Daniel Thomas, Meistr Prawf y Brenin yn y Bathdy Brenhinol
Mae Daniel Thomas wedi gweithio yn y Bathdy Brenhinol ers deng mlynedd a mwy yn gwneud llu o swyddi gwahanol er mwyn helpu i greu darnau arian. Nawr, mae ganddo rôl arbennig iawn, sef ‘Meistr Prawf y Brenin’ – swydd sydd wedi bodoli ers cannoedd o flynyddoedd!
Ac yntau’n Feistr Prawf y Brenin, mae Dan yn gwneud yn siŵr fod yr holl ddarnau arian a gaiff eu gwneud yn y Bathdy Brenhinol yn berffaith. Mae’n profi’r darnau arian i sicrhau bod eu pwysau’n iawn a’u bod wedi’u gwneud o’r metelau iawn. Mae hyn yn bwysig dros ben, oherwydd mae pobl angen gwybod bod eu darnau arian yn ddilys a’u bod o ansawdd da.
Mae gwaith Dan yn cysylltu’r gorffennol â’r presennol. Mae’n defnyddio technoleg fodern ochr yn ochr â chrefft a ddefnyddiwyd am ganrifoedd gan wneuthurwyr darnau arian. Ar ôl i’r darnau arian gael eu profi gan Dan a’i dîm yn y Bathdy Brenhinol, maent yn mynd trwy un o’r prosesau gwirio ansawdd hynaf yn y byd, sef Prawf y Gistan, lle mae arbenigwyr yn gwneud yn hollol siŵr fod y darnau arian yn cyrraedd y safon uchaf.
Mae Dan yn llawn cyffro o gael bod yn feirniad y Gystadleuaeth Stori Fer eleni, ac mae ar dân eisiau darllen yr holl straeon anhygoel!


