Close

Un tro roedd tylwythen deg o’r enw Sara. Un fywiog iawn oedd hi. Hoffai chwilio am antur a hwyl. Ei gwaith oedd cloddio ym mwynau aur y Tylwyth Teg. Doedd hi ddim yn cael llawer o hwyl yno.

Ond un diwrnod cafodd Sara ei hanfon yn ddwfn iawn mewn i'r mwynglawdd. Wrth gloddio, ffeindiodd ddarn o bapur hynafol mewn crac. Tynnodd y papur allan yn ofalus. Roedd lluniau tiroedd gwahanol arno a llinellau tenau bach du yn troi o gwmpas mewn llinell. Ar ddiwedd y papur roedd llun o gist drysor llawn aur a chroes fawr goch wedi’i marcio arni!

“Map trysor hynafol Harri Mohan mae’n rhaid!” meddyliodd Sara yn wên o glust i glust.

Sleifiodd allan o’r mwynglawdd aur a mynd i chwilio am drysor hynafol coll Harri Mohan.

Aeth i'r lle dechrau ar y map – y gerddi hud. Wedyn dechreuodd ddilyn y map. Roedd sawl troad arno.

Ar ddamwain bwmpiodd mewn i ryw dylwythyn.

“Hei!” gwaeddodd y tylwythyn yn flin, “Be ti’n wneud?”

Taflodd Sara’r map ar y llawr mewn ofn.

“Sori.” crynodd.

“Hy! Aros beth yw hwnna?” pwdodd y tylwythyn. Pigodd Sara’r map lan.

“O dim byd.” gwenodd yn gam.

Cododd y tylwythyn un ael. “Rho fe i fi!” mwmialodd.

“Na!”

“Rho fe i fi!”

“Na!”

“Fi yw mab y brenin!” gwaeddodd y tylwythyn yn ddiamynedd.

Taflodd Sara’r map ar y llawr yn bwdlyd.

“Map Trysor cudd Harri Mohan!” gwaeddodd y tywysog mewn anghrediniaeth, “Rhaid iddo fynd i amgueddfa!”

“Beth?!” criodd Sara.

“Iawn, tan bod ni’n ffeindio’r trysor,” pwdodd y tywysog.

Carion nhw mlaen i gerdded. Doedden nhw ddim yn unig yn cerdded gyda’i gilydd yn agos ond yn siarad bach hefyd. Geiriau bach yn unig yn y bôn.

Cwpwl o oriau wedyn as in oooriau wedyn, tripiodd Sara ar draws lwmpyn mawr yn y pridd.

“Coda lan!” gwaeddodd y tywysog.

Cododd Sara lan yn bwdlyd. Roedd hi wedi cael claish bach.

“Aros funed!” dwedodd y tywysog.

Roedd wedi sylweddoli ar lwmp mawr yn y tir. “Rho raw i fi!” gorchmynnodd wrth Sara.

Defnyddiodd y rhaw i gloddio o gwmpas y lwmp. Daeth y lwmp yn rhydd. Roedd e’n fawr ac yn frown.

“Tywysog, dyma lle mae’r groes ar y map!” ebychodd Sara. Tynnodd y tywysog y lwmp allan. Cist drysor oedd e!! Aeth y ddau a’r trysor yn ôl i'r ddinas fawr.

“Diolch am fy helpu i dywysog,” mwmialodd Sara.

“Diolch!” gwridodd y tywysog. Cerddodd y ddau drwy gât dinas y tylwyth teg.

“Trysor Harri Mohan!” gwaeddodd rhywun.

“Ewch a’r arwyr i'r frenhines!” gwaeddodd rhywun arall. Aeth yr arwyr at y frenhines a chael gwledd fawr.

“Fel gwobr geith y ferch yma o’r mwynglawdd briodi’r tywysog!” cyhoeddodd y frenhines.

Priododd Sara a’r tywysog a byw’n hapus byth wedyn ac wrth gwrs dod yn arwyr yn hanes y tylwyth teg.

Y diwedd.

Buddug Williams, 9.

Buddug holding the certificate and prize

 

back to top