Close

Decimalisation Short Story Competition

8878_RMM_Story Competition Winner_Welsh.jpg

 

Ydw, rwy’n hen, ond mae gennyf fy stori fy hun i’w hadrodd a dyma hi.

Roeddwn i’n arfer bod mor ddefnyddiol ond erbyn hyn rwyf ar goll. Yn ddisglair a gloyw ar un adeg. Darn swllt arian hyfryd. Wedi fy ngwneud ym 1935, a phen Brenin Siôr V yn syllu’n ôl ar bawb y byddwn yn pasio drwy ei ddwylo. Arferwn basio o’r naill law i’r llall. O ddwylo’r wraig ty i’r siopwr, i’r rheolwyr siop, i’r banciau. Fe fues hyd yn oed yn nwylo enwogion! O gwmpas ac o gwmpas y Deyrnas Unedig yn teithio yn nwylo pobl ac yn helpu pobl bob dydd.

Cefais fy nefnyddio yn ystod y rhyfel i helpu i brynu deunyddiau i wneud lloches rhag bomio, ac ar ôl y rhyfel bues i’n helpu i ailadeiladu’r wlad. Roedd y darnau arian i gyd mor bwysig, yn bunnoedd, sylltau a cheiniogau. Pob un ohonynt yn cydweithio i help u’r wlad.

Pan wnaeth y Bathdy Brenhinol y darnau arian newydd ym mis Chwefror 1971, nid oedd fy angen i bellach. Nid oeddwn i’n ddarn arian defnyddiol rhagor. Ni fyddwn yn talu mwyach am fwyd na rhent. Nid oedd fy angen i dalu am ddim. Dim rhagor o deithio o’r naill law i’r llall ledled y Wlad. Cefais fy nhaflu i gefn drôr ac ni welais olau dydd am flynyddoedd.

Ond heddiw rwyf allan o’r drôr unwaith eto. Yn ôl yng ngolau dydd. Mae hanner can mlynedd ers dyfodiad y darnau arian newydd. Ond mae’n bryd cofio’r adeg pan oedd darnau arian fel fi mor bwysig. Rwy’n mynd ar antur newydd. Mae casglwyr ym mhob man ac amgueddfeydd yn ceisio cael gafael arnaf. Nid wyf yn ddefnyddiol rhagor, efallai, ond rwy’n arbennig iawn eto.

Rhys Davies, 10.

 

Read this content in English

 

 

back to top