Close

Fel nifer o sefydliadau eraill y dyddiau hyn, mae’r Bathdy Brenhinol yn cymryd sylw mawr o faint o ynni a gaiff ei ddefnyddio, ac rydym wedi cymryd camau i fod yn fwy cynaliadwy a lleihau faint o lygredd carbon rydym yn ei ryddhau i’r atmosffer.

Mae’r prosesau a ddefnyddir i weithgynhyrchu darnau arian, medalau a metelau gwerthfawr yn defnyddio llawer iawn o ynni. Mae angen llawer o drydan i redeg ffatrïoedd y Bathdy Brenhinol, ac ers peth amser mae’r cwmni wedi bod yn dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio’n gynaliadwy.

Yn 2018, gosodwyd tyrbin gwynt i helpu i ddarparu trydan ar gyfer y Bathdy. Delila yw enw’r tyrbin. Mae’n hawdd gweld y tyrbin hwn ymhlith y gweddill gan ei fod wedi’i baentio ar ffurf cenhinen Bedr enfawr, gyda thŵr gwyrdd a llafnau melyn. Yn 2024, cafodd Delila gwmni Bryn, ein hail dyrbin gwynt ar ffurf cenhinen Bedr.

Mae’r tyrbinau’n defnyddio ynni’r gwynt i greu trydan. Mae’r gwynt yn chwythu’r llafnau ac yn gwneud iddynt droi. Mae’r llafnau wedi’u cysylltu â generadur y tu mewn i ran uchaf y tyrbin. Wrth i’r generadur droi, mae’n cynhyrchu trydan. Yna, mae’r trydan yn teithio i lawr y ceblau, sydd wedi’u cysylltu â ffatrïoedd y Bathdy.

Mae Delila a Bryn yn sefyll mewn cae ar fryn y tu ôl i’r Bathdy Brenhinol. Wrth fôn y tyrbinau yn y cae, ceir fferm solar. Mae’r fferm solar yn defnyddio gwres a golau’r haul i gynhyrchu trydan.

I ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ynni adnewyddadwy ac i gael gafael ar adnoddau diddorol ar gyfer yr ystafell ddosbarth, dilynwch y dolenni hyn

Ynni gwynt

Ynni solar

Ynni adnewyddadwy

back to top