Close

Mae’r Bathdy Brenhinol wedi dylunio cyfres newydd o ddarnau arian ar gyfer teyrnasiad Siarl III. Mae’r holl ddarnau arian yn cynnwys planhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl yn y DU.

Drwy gydol hanes, mae anifeiliaid wedi ymddangos ar ddarnau arian ledled y byd. Yn aml, bydd gwledydd yn dewis cynrychioli’u hunaniaeth genedlaethol trwy arddangos eu bywyd gwyllt brodorol.

Hefyd, mae anifeiliaid wedi ymddangos ar ddarnau arian Prydain yn y gorffennol. Yn y 1930au, roedd y ffyrling (sef darn arian cyn degoli a oedd yn werth chwarter ceiniog) yn arddangos llun o’r dryw – sef aderyn brodorol lleiaf Prydain ar gyfer darn arian lleiaf Prydain.

Hyd heddiw, gallwch barhau i weld darnau 10c â llun llew ar y cefn. Mae’r llew yn cynrychioli Lloegr, a defnyddiwyd lluniau eraill i gynrychioli gwledydd eraill Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Bydd y darnau arian newydd ar gyfer Siarl III yn cael eu haddurno â lluniau o fywyd gwyllt sydd mewn perygl ym Mhrydain Fawr er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r bygythiad i’n hamgylchedd naturiol a hefyd er mwyn adlewyrchu angerdd y brenin dros gadwraeth a natur.

Cewch ragor o wybodaeth am rai o’r anifeiliaid sy’n ymddangos ar y darnau arian, ynghyd â bywyd gwyllt arall Prydain, trwy ddilyn y ddolen hon at adnodd dysgu bywyd gwyllt yr Amgueddfa Astudiaethau Natur

British wildlife | Natural History Museum

back to top