Rydym yn taflu ymaith lu o ddyfeisiau electronig a ddefnyddiwn yn ein cartrefi, fel setiau teledu, ffonau symudol, poptai micro-don, consolau chwarae gemau ac ati. Caiff y gwastraff hwn ei alw’n wastraff electronig neu’n ‘E-wastraff’. Mae’r DU yn cynhyrchu mwy na 6 miliwn tunnell o E-wastraff bob blwyddyn. Mae’r gwastraff hwn yn cynnwys deunyddiau pwysig, fel metelau gwerthfawr. Ar hyn o bryd, dim ond oddeutu 31% o’r gwastraff hwn a gaiff ei ailgylchu – caiff y rhan fwyaf ohono’i anfon dramor a’i gladdu mewn safleoedd tirlenwi.
Mae’r Bathdy Brenhinol yn defnyddio llawer o aur ac arian yn ei gynhyrchion, fel gemwaith a darnau arian coffa. Mae’r broses sy’n gysylltiedig â mwyngloddio aur yn gwneud llawer iawn o niwed i’r amgylchedd, felly mae’r Bathdy Brenhinol yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd eraill o gael gafael ar fetelau gwerthfawr.
Mae aur yn dda iawn am ddargludo trydan a chaiff ei ddefnyddio mewn byrddau cylched sydd y tu mewn i bob dyfais electronig. Felly, os byddwch yn taflu ymaith eich ffon symudol, eich gliniadur, eich set deledu, a hyd yn oed eich tostiwr, byddwch yn taflu aur ymaith hefyd.
Mae’r Bathdy Brenhinol wedi helpu i ddatblygu proses newydd ar gyfer ailgylchu metelau gwerthfawr sydd i’w cael mewn gwastraff electronig. Caiff y byrddau cylched eu datgymalu a chaiff yr holl gydrannau eu tynnu ymaith, er mwyn gallu gwahanu’r deunyddiau gwahanol. Mae’r Bathdy yn cadw’r aur, a chaiff yr aur hwnnw ei dynnu oddi ar y byrddau cylched trwy ddefnyddio proses gemegol ar dymheredd yr ystafell. Mae hyn yn golygu ein bod yn defnyddio llai o ynni nag a ddefnyddir mewn dulliau ailgylchu mwy traddodiadol sydd, fel arfer, yn golygu cynhesu’r deunyddiau er mwyn gallu eu toddi a’u gwahanu.
Elfen gadarnhaol arall ynglŷn â’r broses hon yw bod ailgylchu mwy o wastraff electronig yn y Bathdy Brenhinol yn golygu bod llai o ynni’n cael ei ddefnyddio ar gludo gwastraff dramor i’w brosesu neu i’w gladdu mewn safleoedd tirlenwi.
https://www.royalmint.com/gold-recovery/
Rydym yn gwybod na allwch ailgylchu metelau gwerthfawr gartref neu yn yr ysgol, ond mae yna lawer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu i leihau gwastraff. Dilynwch y ddolen hon i gael awgrymiadau ar gyfer ailgylchu.